Mae hi yn 40 mlynedd ers yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes gwledydd Prydain, ac mae rhaglenni teledu ac erthyglau rif y gwlith wedi bod yn trafod y streic wnaeth bara o 6 Mawrth 1984 hyd at 3 Mawrth 1985.

Ac mae Gwasg y Lolfa yn cyhoeddi llyfr gan ŵr a gwraig oedd yno yn gohebu ar straeon am bobol go-iawn a’r cymunedau gafodd eu rhwygo gan ffraeo ffyrnig, a gwaeth…