Bydd Oriel Ffin y Parc yn agor ei drysau yn Llandudno am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi. Yn ogystal â’r lleoliad newydd, mae sawl newid ar droed, fel yr eglura’r perchennog…
I unrhyw un sy’n gyfarwydd â steil Ralph Saunders, perchennog Oriel Ffin y Parc yn Llanrwst gynt, dydy hi ddim yn syndod y bydd “ambell sypreis” yn disgwyl ymwelwyr i’r oriel newydd yn Llandudno.
Wedi misoedd o waith adeiladu a gyda’r lansiad yn cael ei gynnal ar Ddydd Gŵyl Dewi, mi fydd y gwaith o drawsnewid yr adeilad pum llawr yn y dref lan môr yn mynd rhagddo “tan yr unfed awr ar ddeg,” meddai Ralph, wrth siarad gyda Golwg ryw wythnos cyn y lansiad.
“Mi fydd yn anhygoel pan fydd wedi gorffen, ond mae cymaint i’w wneud a chyn lleied o amser,” eglura.
“Rydan ni’n cael lansiad mawr ar 1 Mawrth a dw i ddim yn credu y bydd y gwaith gant y cant wedi’i orffen – ond mi fydd yn edrych yn fendigedig. Mae’r adeilad mor fawr – mae pum llawr i gyd ond bydd y ddau lawr uchaf ar gyfer storio gwaith celf a thri llawr ar gyfer arddangos gweithiau celf. Mi fydd gan bob llawr feib gwahanol.
“Pan fyddan ni’n gwneud sioeau mawr mi fydd gan bob artist lawr iddyn nhw eu hunain, a’r trydydd llawr ar gyfer arddangosfa gymysg. Ac mae gynnon ni lifft sy’n gwneud pob llawr yn hygyrch i bawb.”
‘Canolbwyntio ar y gwaith celf’
Mae cartref newydd Oriel Ffin y Parc yn dipyn o newid byd i Ralph a’i bartner, Roland Powell, a sefydlodd yr oriel yn Llanrwst 15 mlynedd yn ôl. Yn ogystal â’r oriel, roedd yn cynnwys caffi a llety hunanarlwyo.
Does fawr o syndod felly bod ambell un wedi cwestiynu pam fod y cwpl wedi gadael busnes hynod lwyddiannus er mwyn symud yr oriel – ond nid y caffi – i Landudno. Ond fel yr eglura Ralph, roedd y penderfyniad yn ddatblygiad naturiol i’r ddau.
“Roedden ni wedi bod yn Llanrwst ers 15 mlynedd ac wedi adeiladu’r oriel o ddim byd, ond roedd hi’n amser symud ymlaen. Doedden ni ddim yn caru’r ochr o gynnal y caffi, gyda Roland yn gorfod paratoi bwyd gyda’r nos ar gyfer y diwrnod wedyn. Ro’n i eisiau canolbwyntio ar y gwaith celf ac mae Roland yn awyddus i wneud pethau eraill hefyd – mae o’n ganwr jazz ac mae o eisiau gwneud mwy o hynna, er mi fydd o’n rhan o’r oriel newydd hefyd.
“Dw i’n ymwybodol iawn bod rhai o’n cwsmeriaid ni oedd yn dod ar gyfer y caffi yn siomedig, ond dw i’n gyffrous iawn am y lleoliad newydd. Mae’n teimlo fel datblygiad naturiol i ni. Mi fydd yn oriel gelf fasnachol gyda’r pwyslais ar yr artistiaid rydan ni’n eu cynrychioli – ond dim caffi, a dim siop!” pwysleisia Ralph.
Ydy o’n rhagweld y bydd y gynulleidfa yn yr oriel yn newid o ganlyniad i’r lleoliad newydd?
“Na, achos mi fydd y bobl sydd â diddordeb mewn celf yn ein dilyn ni yma. Mae’r adeilad yma’n berffaith ar gyfer oriel gelf – mae’r golau’n well yn un peth. Rydan ni eisiau cael ein cymryd o ddifri fel gofod celf a jest gallu canolbwyntio ar y gwaith celf. Mae llawer o bethau cyffrous ar y gweill ac rydan ni’n mynd i fod yn gweithio’n galed iawn i ddenu cynulleidfa ehangach.”
Artist o Ddinbych yn dathlu ei 60
Sarah Carvell, yr artist o Ddinbych, fydd yn lansio agoriad swyddogol yr oriel ar Ddydd Gŵyl Dewi, gydag arddangosfa unigol o’i gwaith – y cyntaf iddi wneud ers rhai blynyddoedd. Mae ei sioe hefyd yn cyd-fynd a’i phen-blwydd yn 60 oed.
“Dw i wastad wedi bod yn ffan fawr o waith Sarah,” meddai Ralph.
“Mae ei gwaith yn llawn lliw a bywiogrwydd ac mae hi’n boblogaidd iawn felly ro’n i’n meddwl byddai hi’n berffaith i agor yr oriel i ni. Mae hi hefyd wedi paentio lluniau o ardal Llandudno ar gyfer yr arddangosfa, sy’n grêt.
Mae Ralph yn awyddus i bwysleisio y bydd ychydig o newid i’r ffordd mae cwsmeriaid yn gallu prynu’r gwaith celf ar ddiwrnod agoriadol arddangosfa newydd bob mis.
O dan y drefn newydd, bydd pobl yn gallu dod i’r oriel i weld y gwaith o ddeg y bore ond fyddan nhw ddim yn gallu prynu unrhyw un o’r gweithiau celf nes y lansiad am chwech yr hwyr. Os nad ydyn nhw’n gallu dod i’r lansiad bydd modd prynu ar-lein o wyth y nos.
“Mae hyn yn wahanol iawn i’r hyn roedden ni’n gwneud o’r blaen,” eglura Ralph. “O dan yr hen drefn roedd pobl yn gallu prynu’r gwaith ar-lein ar unrhyw adeg cyn y lansiad – roedd pobl yn ffonio ac yn dweud ‘wna i gymryd hwnna’ – ond roedd hynny, mewn ffordd, yn tanseilio’r lansiad swyddogol. Y cyntaf i’r felin fydd hi o hyn ymlaen – y syniad ydy ein bod ni’n annog pobl i ddod yma, ac yn rhoi blaenoriaeth i’r rhai sydd wedi gwneud yr ymdrech i ddod i’r lansiad. Os nad ydy pobl yn gallu dod i’r lansiad, maen nhw’n gallu gweld beth sydd ar werth ar-lein a phrynu o wyth ymlaen ar noson y lansiad.
“Mi fydd y drefn yma mewn lle bob mis pan mae arddangosfa newydd yn mynd ‘yn fyw’. Ar ôl y lansiad bydd popeth ar werth yn y ffordd arferol.”
Aur yw popeth melyn
Gwireddu breuddwyd mae Ralph drwy agor oriel bwrpasol mewn lleoliad o’r fath, meddai.
“Mae’r adeilad yn anhygoel ac yn berffaith ar gyfer oriel gelf. Y peth dw i’n fwyaf cyffrous amdano ydy gallu dangos pobl o gwmpas y gofod yma rydan ni wedi creu. Rydan ni wedi defnyddio paent y cwmni o Gymru, Little Greene, ym mhob ystafell, ac fe fydd bob llawr yn wahanol. Mae’r llawr canol, er enghraifft, yn wyn i gyd a’r llawr top gyda rhai ystafelloedd tywyll, a rhai golau. Mae fy mrawd hefyd yn eurwr [gilder] ac mae o wedi bod yn euro cwpl o ystafelloedd. Mi fydd yna ambell sypreis!”
Ychwanega: “Dw i wastad wedi breuddwydio am gael oriel mewn tŷ tref fel hyn ac, wrth i fi fynd yn hŷn, dyma ydy’r tro olaf fydda i yn gwneud hyn mwy na thebyg. Wel, dw i’n dweud hynny rŵan… ond pwy a ŵyr?!”
Fe fydd Oriel Ffin y Parc yn Sgwâr y Drindod, Llandudno yn agor Ddydd Gwener, 1 Mawrth am ddeg y bore
ORIEL BRYSUR
Dyma’r arddangosfeydd yn Ffin y Parc dros y misoedd nesaf…
1-23 Mawrth
Sarah Carvell
29 Mawrth i 20 Ebrill
Colin See-Paynton
26 Ebrill i 18 Mai
Kevin Sinnott
24 Mai i 15 Mehefin
Rob Pointon, Harry Holland a Jonathan Retallick
21 Mehefin – 13 Gorffennaf
Matthew Wood a Meirion Ginsberg