Yr wythnos hon mae Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig wedi dechrau holi’r Cymry am eu profiadau.

Caiff tystiolaeth ei gasglu hyd at 14 Mawrth a bydd arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion yn cael eu holi am yr hyn a wnaed gan y ddwy Lywodraeth yn ystod y pandemig.

Bydd hyn yn cynnwys craffu ar sawl penderfyniad, megis peidio â gohirio gêm Cymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 14 Mawrth 2020.