Newyddion da o lawenydd mawr… mae Adwaith ar daith ac yn gweithio ar albwm newydd sbon!

Mae eleni yn argoeli i fod yn flwyddyn arbennig unwaith eto i’r band o ferched o Gaerfyrddin sydd wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Cymraeg ddwywaith.

Ar ôl teithio ar hyd Ewrop a thu hwnt y llynedd, a newydd ddychwelyd o daith o’r Iseldiroedd, bydd Adwaith ar eu ffordd i noson agoriadol eu taith chwe wythnos o amgylch gwledydd Prydain fel y byddwch chi’n darllen y geiriau yma.