Pentref bach weddol ynysig ydy Llansannan yn Ninbych, a chafodd hyd yn oed ei enwi’n gymuned fwyaf ynysig yr ardal gan yr ONS. Ond mae yna rywbeth yn y dŵr yno…

O Lansannan daw artistiaid fel Y Trwbz, Maharishi, Gildas a Tara Bethan. Ond mae un teulu yn benodol yn cyfrannu at dalent y sîn roc Gymraeg yn ddiddiwedd a didrafferth – y teulu Elwy.