Annwyl Rhian,
Tua chwe mis yn ôl mi wnes i ddechrau perthynas efo un o fy ffrindiau gorau. Roedd ei berthynas o wedi dod i ben tua’r un pryd ag oedd fy un i wedi chwalu. Ar ôl nosweithiau o siarad, chwerthin a chysuro’n gilydd mi wnaethon ni sylweddoli ein bod ni mewn cariad. Mae popeth wedi bod yn grêt – gan gynnwys yr ochr garwriaethol – ond does dim rhamant. Mae o’n gwybod nad ydw i’r math o ferch sy’n dotio ar rosys cochion a thedi bêrs, ond mi fysa’n braf tasa fo’n gwneud rhywbeth rhamantus bob hyn a hyn. Mae o yn licio tecawe a teli ar nos Wener, nos Sadwrn yn y pyb gyda ffrindiau, a chinio dydd Sul efo’i rieni, a thra mod i’n mwynhau’r pethau yma hefyd, dw i angen teimlo’n sbeshal weithiau. Dw i’n ofni nad ydy o wedi deall bod yna wahaniaeth rhwng bod yn ffrindiau a bod mewn perthynas a bo fi angen cael fy nhrin fel tywysoges ambell waith. Neu ydw i yn naïf ac yn disgwyl gormod? Dw i wedi trio awgrymu sawl peth ond does dim byd yn newid…
Dw i’n dychmygu y bydd rhai sydd yn darllen hwn yn medru adnabod eu perthynas eu hunain yn eich disgrifiad – perthynas hapus sydd, efallai, wedi para ers blynyddoedd. Fe fydd eraill yn genfigennus eich bod chi wedi darganfod rhywun sydd, nid yn unig mewn cariad â chi, ond yn ffrind gorau hefyd. Fe fydd eraill yn medru uniaethu efo chi yn eich awch am fwy o ramant. Mae cariad yn beth cymhleth ac iddo sawl math – cariad rhiant, brawdol, rhamantus a ‘gwir gariad’. Pwy a ŵyr mewn gwirionedd sut mae pobl eraill yn teimlo’r cariad yma? Fedrwn ni mond gwybod sut yr ydan ni’n hunain yn teimlo ac rydw i yn amheus pan fo rhywun yn dweud: “Dw i’n gwybod yn union sut wyt ti’n teimlo,” achos pwy all wir ddeall beth sydd yn mynd ymlaen ym mhen rhywun arall?
Rydan ni yn dod i ddeall beth ydi bod mewn cariad drwy glywed a darllen straeon, a gwylio dramâu a ffilmiau. Ond, yn aml, cariad delfrydol ydi hwn – cariad rhamantus a dim y cariad bob dydd. Dw i’n amau nad ydi profiad y rhelyw yn byw i fyny i’r ddelfryd yma a tydi pawb ddim yn profi cariad rhamantus delfrydol. Mae yna amryw o bobl sydd ddim yn gwybod lle i ddechrau bod yn rhamantus ac yn teimlo’n rhy letchwith i drio. Eraill yn cymryd eu ciw o batrymau o fewn cymdeithas ac yn gwneud pethau rhamantus ddim ond achos fod pobl eraill yn gwneud. Er enghraifft, rhoi cardiau ac anrhegion ar ddydd Santes Dwynwen neu San Ffolant. Mae yna eraill sydd ddim hyd yn oed yn gwneud hynny, ond tydi hyn ddim yn golygu nad ydyn nhw yn teimlo cariad dwfn at eu partneriaid. Mae yna rhai hefyd sy’n deall y gêm yn iawn a dyna yn union ydi o iddyn nhw – gêm – a does dim gwir gariad tu ôl i’w gweithredoedd.
Caru gwallgof
Nid yn unig mae yna sawl math o gariad, mae yna sawl haen hefyd. Yr haen gyntaf ydi’r cyfnod cyntaf cyffrous yna pan fo cwpwl yn cychwyn syrthio mewn cariad ac yn dod i adnabod cyrff a meddyliau ei gilydd. Cyfnod sy’n cael ei reoli gan hormonau gwahanol yn rhuthro drwy’r corff a pan fo’ch sylw i gyd yn cael ei roi i’r garwriaeth. Cyfnod sydd yn gallu bod yn reit wallgof – “madly in love” fel y dywed y Sais. Yn aml hwn ydi’r cyfnod mwyaf rhamantus ond yr haen gyntaf ydi o, a tydi o ddim yn para. Os ydi’r berthynas yn un sy’n mynd i lwyddo fe ddaw rhywbeth dyfnach, parhaol a llai gwallgo’ yn ei le. Mewn ffordd rydach chi wedi methu allan ar y cyfnod cyntaf yma gan eich bod wedi dod i adnabod eich cariad yn dda ac wedi creu perthynas gyfforddus cyn i’r cyfeillgarwch droi yn gariad.
Rydach chi’n awgrymu y byddai derbyn bwnsh o flodau a chlywed ambell air rhamantus yn gwneud i chi deimlo’n sbesial. Ond tybed ydi eich cariad yn dangos i chi eich bod chi’n arbennig iddo fo mewn ffyrdd arall. Er enghraifft, bod yn ofalus ohonoch chi, yn eich parchu a’ch cefnogi ac yn troi atoch am gefnogaeth a barn. Mae o eisoes yn dewis treulio ei amser efo chi ac mae hynna yn gwneud i mi feddwl ei fod o’n meddwl eich bod chi’n arbennig. Beth ydach chi’n wneud i wneud iddo fo deimlo’n arbennig?
Rydach chi’n dweud eich bod chi wedi awgrymu ambell beth ond tybed ydach chi wir wedi siarad am y peth ac wedi trio esbonio eich teimladau? Mi ddarllenish i rhyw dro nad ydi dynion yn pigo fyny ar awgrymiadau a gwell felly fyddai siarad plaen.
Pob fflam yn diffodd
Dywediad Saesneg arall ydi “true love is friendship set on fire” ac er eich bod chi’n dweud fod yr ochr garwriaethol yn iawn ella eich bod chi ddim yn teimlo’r tân yma. Chi ŵyr felly os fyddwch chi’n medru bod yn fodlon byw heb hwn. Os ydach chi’n meddwl y byddwch chi wastad yn chwilio am y rhywbeth arall ac, ar ôl i chi esbonio eich angen i’ch cariad a does dim yn newid, efallai y bydd rhaid i chi edrych yn fanwl ar y berthynas a gofyn sut ddyfodol sydd yna iddi hi? Ond os ydach chi’n chwalu’r berthynas cofiwch eich bod chi’n mentro nid yn unig colli eich cariad, ond hefyd eich ffrind gorau. Cofiwch hefyd fod pob fflam yn diffodd ac, yn fy marn i, mae yna bethau pwysicach mewn perthynas na chael bwnsh o flodau bob hyn a hyn.