20% o blant wedi sugno fêp…
Yr wythnos hon penderfynodd Llywodraeth Cymru i ddilyn trywydd y Deyrnas Unedig a gwahardd fêps untro er mwyn taclo’r nifer cynyddol o blant sy’n eu defnyddio.
Yn ôl ASH Cymru, elusen sy’n ceisio taclo ysmygu, yn 2023 roedd 20.5% o blant rhwng 11 a 17 mlwydd oed yng Nghymru wedi sugno ar fêp.
Roedd hyn yn sylweddol fwy na’r ffigwr o 15.8% ar gyfer 2022 a 13.9% yn 2020.