Neithiwr fe es i weld Cowbois yn Theatr y Royal Court yn Llundain – sioe newydd wedi ei gosod yn y Gorllewin Gwyllt am gymuned rwystredig Gristnogol yn cael ei throi ar ei phen gan y cymeriad Jack Cannon. Dyma unigolyn mytholegol traws-wrywaidd sy’n creu anhrefn ym mhob tre wrth ddwyn aur a dial am lofruddiaeth ei frawd. Yr actor Cymraeg o Abertawe, Sophie Melville, sy’n chware rhan Miss Lillian: perchennog bar sy’n edrych ar ôl pawb yn y gymuned ar ôl i’r dynion i gyd adael y p