Dyna ni Ionawr wedi hedfan heibio a mis Chwefror yma, yn fwy na’r arfer – 29 diwrnod, gan ei bod yn flwyddyn naid.

A sôn am neidio, mae’r arfer o neidio ar y wagen ar ddechrau blwyddyn wedi hen ennill ei blwyf.

Eto eleni mae’r nifer sy’n sych wedi cynyddu, wrth i fwy a mwy geisio byw yn iachach, callach a sobrach… am fis.

Nôl yn 2013 y cychwynnodd y busnes Ionawr Sych yma, gyda phedair mil o bobl yn troi eu cefnau ar y botel.

Y llynedd roedd 175,000 wrthi.

A rhwng hynny a’r ffaith fod pobl – yn enwedig yr ifanc – yn troi at ddiodydd di-alcohol sy’n blasu fel y ddiod gadarn, mae Dry January yn gyfnod heriol i dafarndai.

Mae mwy a mwy yn prynu’r diodydd di-alcohol hyn a phawb yn cytuno eu bod wedi gwella yn arw yn y blynyddoedd diweddar.

Gallaf dystio fy hun bod Guinness 0%, lager Free Damm a chwrw Erdinger Alkoholfrei oll yn hitio’r sbot.

Ac yma yng Nghymru mae ganddo ni o leiaf un cwmni sy’n bragu cwrw di-alcohol, sef Drop Bear Beer draw yn Abertawe.

Ond yr hyn sydd ar goll yw dewis call o gwrw di-alcohol yn ein tafarndai.

Agwedd hilariws un tafarnwr sydd eto i synhwyro fod yna dro ar fyd oedd:

Pam fyswn i yn syrfio cwrw di-alcohol? Dw i eisiau i fy nghwsmeriaid fwynhau eu hunain pan maen nhw yn dod yma!”

Digon teg, ac nid rant hunangyfiawn gan foi sy’ wedi para mis heb lysh sydd gen i. Mae pawb yn rhydd i wneud fel y mynnon nhw…

Ond mae’r ystadegau yn dangos fod y to iau yn troi at ddiodydd di-alcohol, neu hyd yn oed yn cael peint neu ddau o’r stwff go-iawn ar gychwyn noson, cyn troi wedyn at yfed y fersiwn feddal.

Felly os nad ydy’r tafarnau am ddarparu ar eu cyfer, maen nhw am golli busnes.

Ac rydan ni’n gwybod bod sawl tŷ potas mewn picil, yn enwedig efo’r archfarchnadoedd yn gwerthu cwrw mor ddiawledig o rhad.

Felly beth am ddarparu diodydd i’r rheiny sy’n fodlon talu am y profiad hyfryd o gael ymlacio mewn tafarn, ond sydd ddim eisiau meddwi?

A neges i gwmnïau bragu cwrw gwych Cymru – mae hyd yn oed Jeremy Clarkson yn bragu cwrw di-alcohol Diddley Fresh ar ei fferm, Diddly Squat.

Felly mae hi’n amlwg fod yma gyfle gwych i’n bragdai a’n tafarndai ei fachu.

Does dim byd yn newydd dan yr haul, addasu neu ddiflannu fuodd hi erioed…

Gig wych, band gwych, cân wych

Fe glywyd Los Blancos yn creu sŵn rhyfeddol, amrwd a swynol yn entrychion tafarn yr Eagles yng Nghaernarfon ar nos Sadwrn olaf mis Ionawr.

Mae ganddyn nhw albwm newydd-ish, Llond Llaw, ac arni mae yna berlan o’r enw ‘Sgerbwd Eliffant’.

Gwrandewch a mwynhewch, gyfeillion.