Mae artist colur Dr Who a’i ffrind wedi dod â chwaeth Llundain a Chopenhagen i strydoedd prifddinas Cymru…

Sgwrs rhwng dwy fam yn ystod gwersi nofio’r plant wnaeth arwain at agor siop ddillad newydd yn y brifddinas.

Dillad bob dydd o ansawdd uchel sydd ar werth yn Cwfl ym Mhontcanna, a gweld bwlch yn y farchnad wnaeth Lauren Wellman a Nerys Parry wrth fynd ati i sefydlu’r siop.