Yn dilyn degawd o ymchwilio a chydweithio cyson gydag Amgueddfa Werin Sain Ffagan, mae’r gantores adnabyddus yn mynd ar daith i 25 o gapeli Cymru dros y misoedd nesaf.

Gan ddefnyddio deunydd sain o archifau Sain Ffagan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd y cerddor yn perfformio gyda recordiadau o’r hen Gymry yn canu.