Mae adroddiad newydd yn trafod annibyniaeth, ffederaliaeth neu ddatganoli pellach i Gymru…

Mae adroddiad diweddar gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru wedi nodi annibyniaeth fel opsiwn posib ar gyfer ein gwlad.

Bu’r Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams yn arwain gwaith ar y cyd dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn llunio’r adroddiad sy’n edrych ar y posibiliadau ar gyfer sut caiff Cymru ei llywodraethu yn y dyfodol.