Wythnos dwetha bu farw Emyr Glyn Williams yn rhy ifanc o lawer. Heb gyrraedd ei 60 ac yn gadael teulu ifanc ar ôl – dyna’r peth mwyaf trist, bod yna blant, a mam i’r plant, fydd yn gorfod rhywsut dygymod â’r golled aruthrol. O ran diwylliant Cymraeg, rydym yn colli rhywun wnaeth gyfraniad enfawr i’r Byd Pop Cymraeg o ddiwedd yr 80au hyd at heddiw gyda Label Recordiau Ankst/Ankstmusic a mwy. Felly yn sicr mae colli Emyr yn golled hefyd i’r byd diwylliannol, ac mae wedi gadael ei farc unigryw ar y