Mae athrawes o Geredigion wedi cwtogi ar ei horiau yn y dosbarth ac arallgyfeirio i fyd arbenigo ar gynilo arian, a hynny er mwyn treulio mwy o amser gyda’i phlant ei hun.

Mae Ffion Hughes yn byw ar fferm laeth yn Llanfarian ger Aberystwyth, yn rhedeg busnes Saf£io ac yn cynnig cymorth am ddim i bobol gyda’u biliau.

Gradd mewn Cerdd sydd ganddi, ac mae hi wedi bod yn dysgu yn Ysgol Gynradd Plascrug yn Aberystwyth ers tua 15 mlynedd.