Dydy siarcod a Chymru ddim yn ddau air mae rhywun yn disgwyl eu clywed gyda’i gilydd, ond mae tua 27 math o siarcod a morgathod yn ein dyfroedd.
Ac mae yna griw yn y gogledd yn casglu gwybodaeth am siarcod dyfroedd Cymru.
Gwaith Prosiect SIARC ydy dysgu mwy am chwe math gwahanol o siarc, ynghyd â’u gwarchod nhw.
Ac fe gafodd y cynllun, sy’n anelu at gydweithio â phobol ledled Cymru i’w dysgu nhw am siarcod prin, ei enwi fel Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol yng Nghymru’r llynedd.