Cerdd newydd gan fardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023…

 

Carol i Brydain 2023

 

Dolig llawen, Bibby Stockholm*!

Boed y tinsel aur yn drwch;

chithau’n ceisio chwifio arnom

draw o’ch cwch.

 

Dolig llawen yn eich pebyll

ar ôl dewis byw ar stryd!

Dan gynfasau gwlyb a thywyll

gwyn eich byd.

 

Dolig llawen, chi sy’n torri

calon am nad oes ’na bres

i’w roi mewn i’r mîtar ’leni

at y gwres!