Mae gan ffotograffydd o Lundain “angerdd” tuag at dirlun a hanes ei hardal fabwysiedig….

Mae’r ffotograffydd Jean Napier wedi teithio o Dywyn i Ynys Enlli yn ei llyfr diweddaraf, ei seithfed llyfr ffotograffiaeth ar ogledd orllewin Cymru. “Mae’n siwrne o fy nghartref lle dw i’n byw i fy nghartref ysbrydol,” yn ôl y ffotograffydd.