Er bod gan sefydliad DAC bellach 400 o aelodau, mae eisiau rhagor o siaradwyr Cymraeg arno…

Ym mlwyddyn ei ddathliadau yn 40 oed, mae Celfyddydau Anabledd Cymru (Disability Arts Cymru neu DAC) yn galw am ragor o aelodau Cymraeg eu hiaith.

Mae’r sefydliad yn cael ei arwain gan bobol ag anableddau, ac yn canolbwyntio ar brofiadau bywyd pobol ag anableddau a phobol fyddar.