I ddathlu’i ben-blwydd yn 70 oed, mae un o enwau mwyaf byd perfformio Cymru wedi sgrifennu hunangofiant a llwyfannu sioe un dyn.

Cyrhaeddodd Cefin Roberts, cyd-sylfaenydd Ysgol Glanaethwy, oed yr addewid fis yma. Ac wrth iddo agosáu at garreg filltir go fawr, roedd sgrifennu hunangofiant yn dechrau apelio.