Rhywbryd yn ôl yn 1982 neu ’83 roedd angen teithio o Gaerdydd i Fangor. Dwi ddim hyd yn oed cofio yn iawn beth oedd pwrpas y siwrne, ond rwyf yn cofio’n glir mai ar y Traws Cambria y teithiais. Wrth adael Caerdydd gan wynebu oriau maith ar fws, fe benderfynais edrych ar y dirwedd, cymryd yr holl beth i fewn a’i fwynhau. Roeddwn am werthfawrogi tirwedd Cymru o’r de i’r gogledd a hynny drwy ffenestr y bws.