Daeth dros 1,500 i gystadlu yng Ngŵyl Cerdd Dant Caerdydd y Sadwrn diwethaf, a channoedd hefyd yno i gefnogi a mwynhau’r cerdd dant a chanu gwerin, dawnsio a phlycio’r delyn.

Ac yn dilyn cais gan Bwyllgor Gwaith yr ŵyl, fe gasglwyd dros fil o frwshys dannedd a nwyddau glendid ar gyfer gwasanaeth sy’n cefnogi’r digartref yn y brifddinas.

“Rydym yn ddiolchgar i drefnwyr a chefnogwyr yr Ŵyl Gerdd Dant am eu cefnogaeth,” meddai Richard Edwards, Prif Weithredwr Canolfan Huggard.