Roedd yn ddifyr gen i ddarllen colofn Gair o Gyngor Marlyn Samuel wythnos diwethaf, ynghylch cwpl ifanc yr oedd y dyn yn y berthynas wedi datblygu obsesiwn gyda’i gorff a magu cyhyrau. Fel y dywedodd Marlyn, y dyddiau hyn mae’r pwysau ar gael y corff perffaith lawn cyn drymed ar ddynion â merched, ac mae wedi bod felly ers blynyddoedd maith. Dydw i ddim yn meddwl bod cymdeithas yn ei chyfanrwy