Oni bai am Gaza, stori arall fyddai’n llenwi penawdau’r papurau newydd a’r gwefannau. Trwy lwc i Boris Johnson a llawer o’i weinidogion, nid felly y mae.

Wrth i’r ymchwiliad Covid fagu stêm, mae llawer o’r dystiolaeth yn wahanol i’r disgwyl. Mae hyd yn oed yn waeth nag oedd y rhan fwya’ wedi tybio.