Y Blaid Lafur yw’r diweddaraf i gynnal eu cynhadledd flynyddol wrth i’r polau piniwn awgrymu’n gryf mai plaid Keir Starmer fydd y nesaf mewn grym yn San Steffan.

Bu i’r arweinydd roi clod i’r Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru yn ystod cynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno fis Mawrth.

Yn ystod y gynhadledd honno, dywedodd Keir Starmer mai “Llywodraeth Lafur Cymru yw’r prawf byw o beth fyddai Llafur mewn grym yn edrych fel”.