Mae YesCymru yn gobeithio rhoi llais i bobol geidwadol eu gwleidyddiaeth sydd eisiau cefnogi Cymru Rydd…

Yn ystod cynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth lansiwyd un o bum grŵp gwleidyddol newydd gan YesCymru, sef cangen YesCymru Plaid Cymru.

Dyma’r cyntaf i gael ei lansio’n swyddogol gyda YesCymru Llafur, YesCymru Rhyddfrydwyr, YesCymru Gwyrdd ac YesCymru Ceidwadwyr i ddilyn yn fuan.