Chwarae pedair, ennill pedair a thri phwynt bonws. Cyrraedd rownd yr wyth ola’ ar ôl ennill Grŵp C. Byddai unrhyw un wedi derbyn y canlyniad hwnnw flwyddyn yn ôl pan gollodd Cymru yn erbyn Georgia ac Awstralia a Wayne Pivac yn cael ei ddiswyddo.

Byddai unrhyw un wedi derbyn y canlyniad chwe mis yn ôl gyda’r gêm yng Nghymru ar chwâl, chwaraewyr yn bygwth streicio a Chymru ag ond un fuddugoliaeth yn y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal.