Mae albwm gyntaf criw o wynebau cyfarwydd iawn wedi’i wreiddio yn sîn rêfs y 1990au… a nosweithiau pocer!

Os ewch chi yn ôl i wrando ar gyfweliadau Super Furry Animals ar hyd y blynyddoedd, fe glywch chi sôn o bryd i’w gilydd am eu ‘band paralel’ ffantasi.

Daeth y band ffantasi hwn yn realiti – a hynny yn ddamweiniol – yn 2019, wrth i nosweithiau pocer droi’n chwilota am hen syniadau ar floppy disks.

 Ynghyd â Catatonia, y Manic Street Preachers a’r Stereophonics, fe wnaeth y Super Furries greu Oes Aur o fiwsig roc yng Nghymru a thu hwnt. Yn 2005 fe wnaeth cylchgrawn yr NME eu galw nhw’n “band pwysicaf y 15 mlynedd diwethaf”. Fe wnaeth SFA recordio naw albwm ac mae’r cwbl lot wedi eu canmol.

Penderfynon y band roi’r ffidil yn y to ar ôl rhyddhau Dark Days / Light Years yn 2009.

Ond roedd gan y ffrindiau syniadau i’w sbario na ddaeth i fodolaeth yn nyddiau’r Super Furries.

A dyna le ddaw Das Koolies i mewn i’r stori…

Huw Bunford, Cian Ciarán, Dafydd Ieuan a Guto Pryce ydy Das Koolies, sef holl aelodau’r Super Furries oni bai am Gruff Rhys.

Bu Rhys Ifans yn rhan o’r SFA am gyfnod byr iawn reit ar y cychwyn – ac mae’r actor adnabyddus yn ymddangos ar un o draciau albwm newydd Das Koolies, sef ‘Best Mind F**k Yet’.

Maen nhw newydd ryddhau eu halbwm gyntaf, DK.01, yn dilyn tair EP a chyfres o senglau.

Dyma gasgliad sydd wedi ei ddylanwadu gan gerddorion mor amrywiol ag MC Killa Kela, cyfansoddwr o’r ail ganrif ar bymtheg o’r enw Henry Purcell, ynghyd â’u degawdau gyda’i gilydd fel y Super Furry Animals, wrth gwrs.

Mae’r albwm yn ehangu ar syniadau mwyaf electronig ac arbrofol eu band blaenorol, sydd heb eu gweld ar lwyfan ers tua saith mlynedd.

“Wnaeth y Furries orffen chwarae yn 2016 felly roedd o’n neis cael brêc, ond doeddwn i ddim eisiau jest eisiau eistedd rownd yn disgwyl a gwneud dim byd,” eglura Cian Ciarán.

“Felly wnaeth y pedwar ohonom ni ddim cymryd hir i ddechrau cyfarfod unwaith yr wythnos ar gyfer nosweithiau pocer, a wnaethon ni ddechrau gwneud miwsig yn ystod nhw.

“Doedd o ddim ar gyfer dim byd yn benodol, ond wnaeth hyn fynd ymlaen ac ymlaen am tua blwyddyn.

“Roedden ni jest yn cario ymlaen i sgrifennu a dechrau mynd yn ôl trwy hen syniadau a meddwl: ‘Hold on, mae hwn yn syniad bach da. Pam wnaethon ni ddim gwneud dim byd efo hwn efo’r Furries?’

“Pethau oedd wedi cael eu rhoi ar y silff am un rheswm neu’r llall oedden nhw –  hen syniadau, ond eto rhai sydd dal yn gyfoes. Felly mae o fel ein bod ni’n cynhyrchu our younger selves ac yn cael ein dylanwadu gan ein younger selves.

“Mwya’ sydyn, roedd o wedi mynd o noson pocer i fod yna bach o agenda yna i gael rhywbeth allan a rhannu hyn efo’r byd.

“Yn amlwg, pan wnaethon ni gyrraedd ble roedden ni’n meddwl bod angen i ni wneud rhywbeth efo’r syniadau yma i gyd, ti’n gwneud albwm, ti angen enw…

“Wnaethon ni gofio am 1998 pan oedden ni’n stiwdio Real World y tu allan i Bath, ac roedden ni jest yn jocio am wneud band paralel i’r Furries yn ystod Cwpan y Byd [Pêl-droed].

“Wnaethon ni alw’r band yna’n Das Koolies, a wnaeth rhywun jest cofio am fodolaeth y band yna a phenderfynon ni i jest galw fo’n hynna.

“Does yna ddim lot o mystique yna, ond mae o fel ein bod ni mewn peiriant amser.”

Yn ôl i’r gwreiddiau

A sôn am beiriant amser, mae caneuon yr albwm yn dangos olion un o ddifyrion eu hieuenctid – sîn rêfs anghyfreithlon y gogledd yn y 1990au.

“Mae’r dylanwad yma wastad wedi bod yna efo’r Furries hefyd ac yn dangos dros y blynyddoedd,” eglura Cian.

“Wnes i dyfu fyny ar acid house felly mae o fel ail natur, ac mae hwn yn ddatblygiad naturiol.

“Bysech chi’n gallu taeru mai fel hyn wnaeth y Furries ddechrau hyd yn oed.

“Dw i’n cofio ein gig gyntaf ni fel Furries ym Mangor – roedd o’n electroneg i gyd, doedd yna ddim gitâr yn agos i’r lle, heb sôn am ddrymiau.

“Mae yna wastad wedi bod carwriaeth efo miwsig electroneg.

It was an itch we’d always wanted to scratch.

Trwy wrando ar eu hen syniadau o stiwdio Real World yn 1998, fe wawriodd ar y criw fod posib gwireddu’r ffantasi yma.

“Wnaethon ni ddechrau sylweddoli fod gennym ni waith oedd yn benthyg ei hun i fiwsig mwy electroneg a llai traddodiadol yn yr ystyr bod o ddim yn bennill, cytgan, pennill, cytgan,” cofia Cian.

“Wnaeth hynny yrru ni i mewn i ongl benodol wedyn a rhoddodd y cyfle i wneud y fath yma o albwm.

“Roedden ni jest yn cymryd bywyd fel oedd o’n dod, ond mae’n braf gallu cael pethau allan ac off the chest efo’r albwm yma.”

“Rhaid cadw meddwl agored”

Mae’n debyg bod Das Koolies heb fwriad o gynnwys unrhyw lais canu ar eu cerddoriaeth. Gruff Rhys oedd prif leisydd y Furries, a falle hebddo, doedd y llais ddim yn cynnig ei hun fel elfen mor bwysig yn y miwsig electroneg… ar y dechrau.

Ond datblygodd yr awydd i ddod â llais i’r prosiect o wythnos i wythnos yn eu nosweithiau pocer.

“Roedd y syniadau yma’n hen rai o hard drives a floppy disks hyd yn oed – dyna pa mor hen ydyn nhw,” eglura Cian.

“Doedd yna ddim lot o ganu arnyn nhw a doedd yna ddim diddordeb canu ar y pryd, ond roedd o’n rhywbeth wnaethon ni benderfynu gwneud yn anochel.

“Yng nghanol nos mae rhywun yn pigo meic i fyny a dechrau canu rhywbeth a ti’n meddwl: ‘Mae hwnna’n swnio’n hanner call, wnawn ni wrando arno fo eto yn y bore’.

“A dyna fo wedyn, wnaethon ni jest cario ymlaen i drio pethau allan.

“Doedd yna ddim byd dyfeisgar ynddo fo.

“Ond rhaid cadw meddwl agored yn ystod yr holl broses – dyna oedd y briff dw i’n meddwl.”

Parhau y bydd ffrwyth y nosweithiau pocer yma… gobeithio!

“Yn wreiddiol, roedd yr albwm yma am fod yn un triphlyg, ond wnaethon ni gael o i lawr i 17 cân yn y diwedd,” meddai Cian.

“Felly mae yna ganeuon dal yna ac mae’r casgliad o syniadau yn dal i fodoli, ac mae yna ddigon o ddeunydd i archwilio.

“Ond am rŵan, dydyn ni heb roi dyddiad ar ein cynlluniau ni, ond byswn i’n licio gwneud mwy.

When the fun stops, stop – dyna dw i’n hoffi meddwl.”

Mae DK.01 ar gael i’w ffrydio a’i brynu ar gasét a feinyl nawr