Cyn cyrraedd Bae Caerdydd bu Peredur Owen Griffiths yn gweithio i fanciau ac elusennau …

Er bod Peredur Owen Griffiths yn cynrychioli poblogaeth y de ddwyrain erbyn hyn, yn ystod ei ddyddiau cynnar bu’n teithio ledled Cymru.

Yn fab i weinidog, treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Nyffryn Clwyd cyn i’w dad symud i Foelfre ym Môn.