Mae’r Comisiynydd Pobol Hŷn eisiau taclo’r rhwystrau sy’n atal dynion hŷn rhag riportio eu profiadau o gamdriniaeth… 

Does dim digon o ymwybyddiaeth na chymorth ar gael ar gyfer dynion yn eu hoed a’u hamser sy’n dioddef o gam-drin domestig, yn ôl y Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru.

Wedi iddi ymchwilio i gamdriniaeth pobol hŷn, dywed Heléna Herklots bod cam-drin dynion yn bryder gwirioneddol, er nad yw’n bwnc sy’n derbyn llawer o sylw.