Gyda’r cynlluniau ar gyfer ehangu Senedd Cymru wedi eu cyhoeddi, mae cryn drafod ar y syniad o gael rhagor o wleidyddion…

Wrth i’r Aelodau ddychwelyd i Fae Caerdydd yn ddiweddar fe gyhoeddwyd y cynlluniau ar gyfer ehangu’r Senedd, sef ffrwyth cytundeb cydweithio rhwng pleidiau Llafur a Phlaid Cymru.

Bwriad y diwygio yw creu Senedd fwy modern a chynrychioliadol sy’n gallu craffu’n well a dwyn y Llywodraeth i gyfrif.