Mae rheolwr chwarel yn y gogledd wrthi’n ceisio cwblhau’r her o gerdded i gan copa uchaf Cymru am y trydydd tro.

Her i ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oedd yr ymdrech gyntaf bedair blynedd yn ôl, ond mae Erwyn Jones dal i wthio’i hun a cherddodd 36 milltir mewn diwrnod dros fynyddoedd Eryri’n ddiweddar.

Ac ar ei deithiau mae’r mynyddwr sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog yn tynnu lluniau trawiadol o fachludoedd tlws a chonglau anghysbell.