Coginio dros dân agored ydy pethau heliwr profiadol sy’n dysgu eraill sut i droi cig gwyllt yn brydau blasus, ac mae miliynau wedi gwylio ei anturiaethau ar y cyfandir.

Mae gan Cai ap Bryn gwmni arlwyo ac addysgu yn ne Lloegr, ac mae hefyd yn sgrifennu ryseitiau i’r Shooting Times ac yn ymddangos yn gyson ar sianel YouTube hela fwyaf Ewrop.