Mae’r llenor, ymgyrchydd ac athro wedi marw yn 85 oed. Roedd yn flaenllaw ymhlith y criw wnaeth sefydlu Cymdeithas yr Iaith yn 1962, a bu yn athro Saesneg a Ffrangeg cyn troi at fyd y ddrama a bu yn sgriptio i’r llwyfan a’r teledu. Yn 2008 fe enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel, a bu hefyd yn golofnydd uchel ei barch ac yn undebwr a sosialydd mawr.