Does unman yn debyg i adref, fel y cana Gwyneth Glyn yn ei chân… ac mae un a fu yn un o Big Beasts y Blaid eisiau dod nôl i’r gorlan genedlaetholgar.

Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud wrth ITV Cymru ei bod yn “bryd dychwelyd adref”, a hynny saith mlynedd wedi iddo droi ei gefn ar Blaid Cymru er mwyn cael bod yn Weinidog yn Llywodraeth Lafur Carwyn Jones.

Ond sut groeso gaiff y Mab Afradlon nôl ar yr hen aelwyd?