Mi fydd effaith chwyddiant wedi dod yn hollol amlwg i lawer o bobol Cymru yn ystod y pythefnos diwetha’.

Oherwydd bod blwyddyn gyfan wedi mynd ers y Sioe a’r Eisteddfod ddiwetha’, mae’r gwahaniaeth mewn prisiau’n drawiadol yn y stondinau bwyd.

Os ydi bwydydd mewn digwyddiadau fel hyn yn sicr o fod yn ddrutach beth bynnag (oherwydd costau cael bod yno), mae’r cynnydd ers 2022 yn eitha’ syfrdanol.