Ar ei albwm newydd mae Gai Toms yn rhyddhau’r arch-arwr mewnol…

O’r gân agoriadol emosiynol i’r pop-roc chwerw felys, mae albwm newydd Gai Toms yn gipolwg ar ei feddylfryd ôl-bandemig.

Albwm obeithiol ydi BAIAIA!, lle clywn ysbryd arch-arwr mewnol y cerddor-fardd o Stiniog yn gwibio o un gân i’r nesaf. A daw dawn delynegol ac ysbryd gwerinol Gai Toms ynghyd i greu perl o albwm.