Wrth gwrs fod Maes y Steddfod a’r ardal ehangach yn byrstio efo pethau i’w gwneud a’u gweld a’u clywed, a rhag cywilydd unrhyw Gymro sy’n awgrymu fel arall!

Ond gadewch i ni fod yn onest, mae’r holl fwrlwm yn medru bod yn llethol ar brydiau.

Ac ar yr adegau hynny pan mae angen arafu a mwynhau dihangfa fach dawel, mae cysur mewn rhoi gwrandawiad i bodlediad.