Mae cyn-enillydd y Fedal Ddrama wedi dweud ei fod yn “siomedig” nad yw ei ddrama fuddugol, Nyth, wedi cael ei llwyfannu’n rhan o’r wobr.

Dywedodd y dramodydd Gruffydd Siôn Ywain wrth Golwg nad yw eisiau i Brif Ddramodydd Llŷn ac Eifionydd gael yr un siom pe bai teilyngdod yn y Fedal ddydd Iau nesaf (10 Awst).

Ei ddrama Nyth a ddaeth i’r brig yn Nhregaron yn 2022 ym marn y beirniaid Sharon Morgan, Janet Aethwy a Sera Moore Williams – mae’r ddrama yn darlunio hanes cwpwl gwrywaidd sy’n chwilio am fam fenthyg er mwyn cael teulu.

Yn ôl y Testunau, dyfernir y Fedal am ddrama sydd yn ‘dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol’.

“Yn draddodiadol, y Theatr Genedlaethol sydd wedi gwneud hynny,” meddai Gruffydd Siôn Ywain, sy’n hanu o Ddolgellau ond yn byw yng Nghaerdydd, “ond mae yna batrwm rŵan… Wnaeth drama Gareth Evans-Jones, Cadi Ffan a Jan (Prif Ddramodydd Eisteddfod AmGen 2021) ddim cael llwyfaniad chwaith. Ar lefel bersonol, dw i’n siomedig achos byswn i wrth fy modd yn gweld y ddwy ddrama yn cael eu llwyfannu.

“Un o’r prif atyniadau i drio am y Fedal Ddrama yn y lle cyntaf ydi cael y cyfle i weld y gwaith yn cael ei lwyfannu. Os ydan ni’n dweud bod y Fedal Ddrama yn un o gystadlaethau’r Eisteddfod, dw i’n meddwl bod yr Eisteddfod yn colli cyfle drwy beidio â rhoi cyfle i gynulleidfaoedd gael ymdrin â’r gwaith.”

 

Y cwmni wedi bod yn “gwbl eglur”

Mae Gruffydd Siôn Ywain yn cydnabod bod y Theatr Genedlaethol “yn llawn o fewn eu hawl i newid eu blaenoriaethau” gan nad oes rheidrwydd ar y cwmni i lwyfannu ei waith buddugol.

“I fod yn deg i’r cwmni maen nhw wedi bod yn gwbl eglur bod dim bwriad ganddyn nhw lwyfannu Nyth,” meddai. “Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn, yn rhoi cyngor ar gwmnïau eraill y byddwn i’n gallu cysylltu efo nhw, ac adborth ar y ddrama yn gyffredinol.”

Mae Gruffydd Siôn Ywain yn awgrymu y gallai’r Eisteddfod weithio gyda chwmni gwahanol er mwyn llwyfannu gwaith y dramodydd sy’n ennill Y Fedal Ddrama.

“Mae cynulleidfaoedd yn cael y cyfle gyda’r prif gystadlaethau eraill i brofi a gweld a ydyn nhw yn cytuno efo’r feirniadaeth ac ymateb yn bersonol i’r gwaith eu hunain,” meddai. “Gyda’r Ddrama bellach, dydi hyn ddim yn bosib – nid yn unig does yna ddim perfformiad, dydi’r gwaith ddim yn cael ei gyhoeddi chwaith…

“Mae drama yn rhywbeth i’w berfformio, a dydi’r gwaith ddim yn wir yn dod yn fwy tan iddo gael ei ddehongli gan gyfarwyddwr, neu mae yna actorion yn ei berfformio fo, ac mae ymateb y gynulleidfa’n rhan bwysig ohono fo.

“Tybed a oes yna gyfle i’r Eisteddfod gydweithio efo cwmni theatr arall efallai? Mae’n bosib ei bod hi’n rhy hwyr rŵan i Nyth a Cadi Ffan a Jan, ond yn sicr fyddwn i ddim yn licio i hyn ddigwydd i’r enillydd nesaf.”

 

Y Ddrama yn yr Eisteddfod yn mynd drwy “gyfnod trothwyol”

Mae Gareth Evans-Jones hefyd yn dweud y byddai yntau wedi hoffi gweld y ddrama a gipiodd iddo’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod AmGen 2021 ar lwyfan.

“Mae’n biti nad ydi Cadi Ffan a Jan a Nyth wedi cael eu llwyfannu, oherwydd y gobaith yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd ers ychydig flynyddoedd, ydi y basa drama fuddugol y Fedal Ddrama yn cael ei datblygu a’i chynhyrchu maes o law,” meddai’r dramodydd o Fôn.

“Mi fuais i’n ffodus o gael detholiad o Cadi Ffan a Jan yn cael ei ddarllen yn y Steddfod y llynedd, diolch i’r Theatr Genedlaethol am drefnu hynny. Ond mi fasa gweld ‘Cadi Ffan’ yn mynd drwy’i phethau a ‘Jan’ yn rhoi’r byd yn ei le efo sigarét mewn llaw yn lle sgript yn braf iawn.

“Dw i’n meddwl fod lle’r ddrama yn y Steddfod yn mynd drwy gyfnod trothwyol rŵan. Mi fydd yn ddifyr gweld be ddaw o ganlyniad i hyn, yn enwedig i’r disgwyliadau ynghylch cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn y dyfodol.”

 

‘Ble fyddai’r perfformiad?’

Serch hynny, mae’r Theatr Genedlaethol wedi mynd i’r afael â gwaith buddugol y Fedal Ryddiaith yn 2022. Bydd dehongliad o storïau o gyfrol Sioned Erin Hughes, Rhyngom, yn y Babell Lên ar y Maes ddydd Llun nesaf. Mae’r cwmni hefyd yn gwneud tri chynhyrchiad arall yn yr Eisteddfod, sef Parti Priodas – drama newydd gan Gruffudd Owen, Yr Hogyn Pren – sioe byped i blant, a Rŵan Nawr – gwaith newydd iawn gan Hannah Daniel, Mali Ann Rees, Manon Steffan Ros, Llŷr Titus a Kallum Weyman.

Bu Sharon Morgan, un o feirniaid y Fedal Ddrama y llynedd, yn holi ynglŷn â llwyfannu’r Fedal Ddrama yn ei cholofn yn Y Cymro fis diwethaf. Wrth drafod arlwy’r Maes y llynedd, mae’n dweud: ‘Doedd dim perfformiad o Cadi Ffan a Jan, y gwaith ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama’r flwyddyn flaenorol, dim ond darlleniad o ychydig o olygfeydd ac yna sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r dramodydd Gareth Evans-Jones. A bydd dim cynhyrchiad o waith enillydd llynedd, Gruffydd Siôn Ywain, eleni chwaith. Ond, beth bynnag, heb Theatr Fach y Maes, ble fyddai’r perfformiad?’

Nid oes Theatr ar y Maes na Phentref Drama eleni yn yr Eisteddfod – roedd ‘y cwmnïau yn dymuno cael gofodau gwahanol’ yn ôl yr Eisteddfod. Mae Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, wedi dweud yn Golwg (06/07/23) y bydd gwaith y cwmni “i’w weld ar draws y Maes mewn llefydd annisgwyl lle na fyddai theatr fel arfer”.

 

Ymateb yr Eisteddfod

“Yn wahanol i’r prif wobrau eraill (ac eithrio Tlws y Cerddor) gwobrwyo addewid a wneir drwy’r Fedal Ddrama,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod. “Potensial yn hytrach na sicrwydd i’w datblygu ymhellach a wobrwyir.

“Ceir darlleniad o ddarn o’r gwaith fel rhan o’r seremoni, sy’n cyfateb i’r hyn a geir yn seremoni wobrwyo Tlws y Cerddor.

“Fel rhan o’r pecyn rhoddir cyfle i’r cyw-ddramodydd weithio gyda dramaturg i ddatblygu’u crefft, a chred yr Eisteddfod fod y cynnig hwn yn ganolog i hybu ysgrifennu newydd a dramodwyr y dyfodol.

“Yn yr un modd, rhennir y sgript gyda holl gwmnïau proffesiynol Cymru ar eu cais i sicrhau y gall unrhyw gwmni weithio gyda’r dramodydd i lwyfannu’r gwaith fel rhan o’u harlwy. Dewis y cwmnïau proffesiynol yw penderfynu a fyddai’r gwaith yn gweddu eu rhaglenni gwaith hwy. Gall gymryd blynyddoedd o fynd yn ôl ac ymlaen i fireinio sgript a gwerthfawrogwn hwn yn llwyr, yr hyn sy’n bwysig i ni fel corff yw rhoi cyfleoedd i ddatblygu dramodwyr.”

 

Barn y Theatr Genedlaethol

“Fel cwmni, ry’n ni’n mynd trwy gyfnod o newid ac mae ein blaenoriaethau yn esblygu – mae hyn yn amlwg yn yr arlwy amrywiol ry’n ni’n ei gynnig i’n cynulleidfaoedd,” meddai llefarydd ar ran y Theatr Genedlaethol.

“Mae ein gwaith sgwennu newydd angen cydfynd â gweledigaeth artistig y cwmni, ac mae dramâu llawn yn aml yn cymryd blynyddoedd i’w cwblhau cyn eu llwyfannu. Mae’n bwysig ein bod yn rhoi cyfle a chefnogaeth i ddramodwyr ddatblygu eu crefft – a dyna pam ein bod yn cefnogi’r dramodydd buddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama, drwy gynnig pecyn o gefnogaeth wedi ei deilwra, mewn sgwrs gyda’r unigolyn yna.

“Mae perthnasedd ein gwaith yn greiddiol i’n gweledigaeth artistig ac ry’n ni’n cyflwyno dehongliad o Rhyngom yn yr Eisteddfod oherwydd perthnasedd y lleoliad, gyda’r awdur yn hanu o Foduan, a’i gysylltiad i elfennau eraill o’n gwaith, megis prosiect Ar y Dibyn.” 

 

Os hoffech flas ar ddrama Nyth, mae Mas ar y Maes wedi trefnu darlleniad o rai golygfeydd o’r ddrama (ynghyd â Cadi Ffan a Jan a Crafangau gan Nia Morais) ym mhabell Paned o Gê, 5pm dydd Llun 7 Awst. Yr actorion Gethin Bickerton ac Iestyn Arwel fydd yn darllen sgript Nyth ac Alice Eklund yn cyfarwyddo.