Does gen i fawr o gysylltiad â Sioe Frenhinol Cymru, neu, fel y mae fy ffrindiau sy’n fynychwyr rheolaidd yn ei galw, “y Sioe”. Mewn difri, f’unig ymwneud â hi – a hynny bron â bod bob blwyddyn ers cyn cof – yw fy mod i rywsut yn llwyddo gyrru fyny neu lawr o’r gogledd tra bod hi’n cael ei chynnal yn ddiarwybod i mi, gan ychwanegu awr braf at y daith wrth ddynesu at neu adael Llanfair-ym-muallt. I’r rhai ohonoch sy’n gyfarwydd â’r A470, gallwch amgyffred â hunllef hynny.