Yr wythnos hon heidiodd miloedd i faes y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-Muallt i fwynhau sioe amaethyddol fwyaf Ewrop.
Gyda Llywodraeth Cymru’n rhannu diweddariad ar y cynllun ffermio cynaliadwy ar drothwy’r sioe a’r argyfwng hinsawdd yn gwmwl du uwchben sawl un, mae rhoi ystyriaeth i gynaliadwyedd wedi dod yn bwnc pwysicach nag erioed.
Ond, beth yn union mae ffermio mewn ffordd gynaliadwy yn ei olygu?