Bu farw cyn-Aelod Seneddol Cwm Cynon yn 86 oed wythnos ddiwethaf

Mae rhai o fenywod San Steffan wedi disgrifio’r cyn-Aelod Seneddol dros Gwm Cynon, Ann Clwyd, fel “arloeswr gwleidyddol” a fu’n ymladd dros hawliau eraill “hyd yn oed ar gost bersonol.”

Bu farw’r gwleidydd yn ei chartref yn 86 mlwydd oed nos Wener ddiwethaf (21 Gorffennaf).

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi iddi gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a’r cyn-Brif Weinidog Tony Blair.