Wnes i wylio efo diddordeb – fel sawl person arall – y fideo feiral ar y BBC o blant o Wcráin yn Ysgol Llanfairpwll yn Ynys Môn yn siarad a chanu yn y Gymraeg.

Mae’n galonogol cydnabod sut mae’r Cymry wedi ymateb i’r rhyfel ac agor ein drysau a rhoi croeso i ffoaduriaid Wcráin yn ein cymunedau.

Yn y fideo gwelwn gynnyrch gwaith da’r plant, yr ysgol a’r uned iaith. Beth sydd hefyd yn dod i’r amlwg ydy’r gymdeithas agored sy’n hael ei chroeso ac sy’n rhoi cefnogaeth i bobl mewn angen.