Ar drothwy gwyliau’r haf mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, wedi bod yn adlewyrchu ar ei thymor yn y Senedd.

Mae hi wedi bod yn arwain y blaid ers 2017 ac yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y Senedd ers 2021.

Yn ôl y Lib Dem, un o’r prif faterion y buodd hi’n ceisio’i ddatrys dros y tymor diwethaf oedd y diffyg mynediad at ddeintyddion mae sawl un ledled Cymru yn wynebu – yn enwedig plant.