Mae un o brif actorion digrif S4C wedi cyhuddo’r sianel o beidio â chael “strategaeth gomedi”.
Ond mae llefarydd y sianel Gymraeg wedi mynnu fod gan “gomedi ran bwysig i’w chwarae o fewn strategaeth S4C”.
Dros y blynyddoedd mae’r actor Iwan John wedi creu nifer o gymeriadau doniol ar raglenni fel Mawr, Twm Tisian, Hotel Eddie, Caryl, Ysbyty Hospital ac yn fwy diweddar, y gyfres sgetshis Hyd y Pwrs.
Ar hyn o bryd mae’r actor yn cydlynu’r fenter Talent Mewn Tafarn, sy’n cydweithio â thafarndai cymunedol er mwyn meithrin doniau ymysg diddanwyr bro, drwy eu helpu i gynnal gweithdai a nosweithiau adloniant.
Mae gan S4C gyfrifoldeb i hybu talentau comedi o’r fath, yn ôl Iwan John, sy’n anhapus gyda’r sefyllfa bresennol.
“Does dim strategaeth gomedi gyda nhw,” meddai wrth Golwg. “Sa i’n gwybod beth sy’n digwydd. Mae ar goll rhywle. Mae hi’n bwysig iawn i Gymru gyfan ein bod ni yn cael comedi ar S4C. Mae’n warthus.”
Gobaith Iwan John yw y bydd y fenter Talent Mewn Tafarn yn meithrin rhagor o gomedi gwreiddiol yn y Gymraeg, “achos, ar hyn o bryd, dyw’r S4C ddim yn ei fwydo,” meddai.
“Mae e lan i S4C wneud i bobol feddwl, ‘fe alla i wneud hyn, alla i wneud bywoliaeth mas ohono fe’. Dyna ni’n trial ei wneud, ond heb gefnogaeth S4C mae’r peth yn cwympo… Mae Channel 4, neu BBC2, yn dangos pethau arbrofol… Mae eisiau hwpo fe i gyd mas yna. Nid stand-yp yw’r unig genre. Mae llawer o bethe gwahanol.
“Mae pawb o hyd yn edrych am y C’mon Midffîld! nesaf. Dyw hynna ddim yn mynd i ddigwydd, heblaw bod pobol ifanc a phobol fel fi yn gallu arbrofi, a chreu cymeriadau gwahanol… ac rydych chi’n gallu pigo rhywbeth mas wedyn sy’n mynd i weithio mewn cyfres fel yna.”
Dywedodd Iwan John bod S4C wedi penderfynu dirwyn y ddiweddaraf o’r gyfres sgetshis Hyd y Pwrs i ben.
“Roedden ni ar ganol gwneud cyfres ond cafodd ei dorri hanner ffordd,” meddai. “Mae hyn cyn y flwyddyn ddiwethaf. Beth bynnag yw comedi, does dim ots os y’ch chi’n licio fe neu beidio… Mae rhyw fath o gomedi i bawb, ond mae eisiau treial lot o rai gwahanol mas.
“Mae pobol yn gofyn i fi rownd y rîl amdano fe. Dw i ddim yn gwybod… dyw e ddim yn siwtio beth mae rhai pobol… Yn anffodus, mae fel mai chwaeth un person ar y top sy’n bwysig.”
“S4C yn trafod datblygu talent comedi”
Dywedodd llefarydd ar ran S4C mewn ymateb i’r honiad am ddiffyg strategaeth gomedi: “Mae gan gomedi ran bwysig i’w chwarae o fewn strategaeth S4C ac mae nifer o brosiectau yn cael eu cynhyrchu a’u datblygu ar hyn o bryd.
“Bydd Maggi Noggi a Kiri Pritchard-McLean yn crwydro maes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan er mwyn creu cynnwys doniol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Fe fydd Taith i Gaeredin gyda Priya Hall, Melanie Carmen Owen a Leila Navabi yn dilyn y tair wrth iddyn nhw berfformio am y tro cyntaf yn yr Ŵyl yng Nghaeredin.
“Bydd rhaglen ddychanol O’r Diwedd i’w gweld dros gyfnod y Nadolig a bydd cyfres gomedi Jam gan Alun Saunders yn dychwelyd i S4C. Wrthi mewn datblygiad ar hyn o bryd mae cyfres newydd o Rybish gan Barry ‘Archie’ Jones ac fe fydd mwy o Stand Yp hefyd i’w weld y flwyddyn nesaf.
“Mae Hansh yn parhau i fod yn feithrinfa i dalent newydd a bydd BWMP yn rhan o’r arlwy gomedi ar y platfform yna yn fuan. Mae S4C hefyd wrthi’n trafod cynllun datblygu talent comedi gyda darpar bartneriaid er mwyn meithrin y to newydd o gomediwyr a thalent yn y maes hwn.”
Gofynnodd Golwg am ymateb S4C i’r penderfyniad i ddirwyn Hyd y Pwrs i ben, a beth oedd y rheswm tros hynny, ond ni chafwyd ymateb.
20,600 yn gwylio S4C gyda’r nos
Fe gyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol S4C yr wythnos ddiwethaf, a’r prif newyddion oedd bod y nifer sy’n gwylio’r sianel yn wythnosol yng Nghymru wedi codi 8%, o 300,000 yn 2021/22 i 324,000 yn 2022/23.
Ar gyfartaledd roedd y nifer yn gwylio S4C trwy wledydd Prydain yn ystod yr oriau brig, rhwng saith a deg y nos, wedi cynyddu o 17,400 yn ‘21/22 i 20,600 yn ‘22/23.
Roedd yna gynnydd yn y gwylio ar y BBC iPlayer a Clic hefyd, gyda phobl wedi gwylio dros dair miliwn o oriau o raglenni tros y We.
“Mae’r cynnydd yma yn brawf o frwdfrydedd ac ymdrech staff S4C a’n partneriaid ni yn y sector yma yng Nghymru,” meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C.
“Gwych hefyd yw gweld parhad y cynnydd a welwyd yn 2022-23 yn ein ffigurau ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon.
“Mae S4C yn falch o hybu’r iaith Gymraeg, sbarduno siaradwyr newydd a chodi hyder siaradwyr i ddefnyddio’r iaith.”
Rhaglenni chwaraeon oedd yr wyth uchaf ar restr o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, gyda’r gêm bêl-droed rhwng Cymru a Gwlad Belg ar y brig gyda 456,000 wedi ei gwylio nôl ym mis Medi.