Mae gan Penderyn DRYDYDD distyllfa ac mae’r cwmni yn allforio’r ddiod gadarn i 50 o wledydd tramor…

Mae cwmni wisgi enwocaf y wlad newydd agor eu trydydd distyllfa ar hen safle gwaith copr yn Abertawe.

Tua chwarter canrif ar ôl taro ar y syniad o atgyfodi distyllu wisgi yng Nghymru, a hynny ymysg criw o ffrindiau mewn tafarn yng Nghwm Cynon, Penderyn ydy’r wythfed cwmni mwyaf o’i fath yng ngwledydd Prydain.

Ym mhentref Penderyn, ychydig filltiroedd o Hirwaun lle cydiodd y syniad gwreiddiol, mae pencadlys y cwmni dal i fod, ond maen nhw’n prysur ehangu. Yn 2021, agorwyd ail ddistyllfa yn Llandudno ac mae’r drydedd wedi ei hagor yn Abertawe dros yr haf.

Rhoi Cymru ar y map ydy un o brif amcanion y cwmni sy’n creu wisgi brag sengl ar y tri safle. Bellach, maen nhw’n allforio eu diodydd i dros hanner cant o wledydd dros y byd, gan gynnwys yn Unol Daleithiau, Seland Newydd ac Ynysoedd y Philipinau.

Ar ôl ehangu i Landudno, wrth i gwmni Penderyn uno rywfaint ar y de a’r gogledd, daeth cyfle am drydydd distyllfa ar safle hen waith copr Abertawe.

“Yn ddiddorol, tua deng mlynedd yn ôl roedd Stephen Davies, Prif Weithredwr Penderyn, yn edrych ar yr adeilad ac yn meddwl y byddai’n lle arbennig i gael distyllfa. Ar y pryd, doedd ganddyn nhw ddim yr arian,” meddai Jon Tregenna, rheolwr y cyfryngau Penderyn, wrth drafod y lle newydd sydd gyferbyn â stadiwm Swansea.com ble mae’r Gweilch ac Abertawe yn chwarae.

Gydag arian o Gronfa Treftadaeth y Loteri, fe wnaeth Cyngor Abertawe welliannau i’r adeilad, ac mae gan Penderyn les can mlynedd ar y safle nawr. Yn ogystal â chynnig teithiau tywys, mae siop yno – a distyllfa wisgi wrth gwrs.

Mae’r gwirod sy’n cael ei ddistyllu gan Benderyn â chryfder o tua 90% i 92% o alcohol yn ôl cyfaint (ABV) cyn iddo fynd i’r gasgen, o gymharu â gwirod wisgi’r Albanwyr a’r Gwyddelod sydd tua 70%.

“Dyma’r gwirod â’r draw uchaf yn y busnes wisgi, mae’n gwirod ni’n bur iawn,” eglura Jon, sy’n byw yn Nhalacharn.

“Wrth ddal o yn eich dwylo – dydych chi ddim eisiau ei yfed – mae’n arogli’n flodeuog iawn.

“Mae’n golygu bod y wisgi Penderyn yn ysgafn, blodeuog a blasus. Es i i Galiffornia ychydig flynyddoedd yn ôl ac fe wnaeth rhywun ei alw fo’n ‘Sunshine Whiskey’ achos dyw e ddim yn wisgi fyddech chi’n yfed yn hwyr yn y nos, byddech chi’n ei yfed fel aperitiff. Mae lot o bobol sydd ddim yn hoffi wisgi’n hoffi ein wisgi ni hefyd.”

O gyflogi pum gweithiwr i 120

Ar ôl dechrau gyda phum gweithiwr pan lansiodd Penderyn yn 2004, mae gan y cwmni 120 aelod o staff bellach. Mae tua ugain o’r rheiny’n gweithio yn Abertawe, a dros y flwyddyn nesaf, mae’r tri safle yn disgwyl croesawu tua 120,000 o ymwelwyr.

“Mae Penderyn i’w gael mewn dros 50 gwlad nawr, yn holl siopau cwrw’r Deyrnas Unedig, ac rydyn ni wedi ennill dros gant o wobrau aur rhyngwladol. O sgwrs mewn tafarn tua 26 mlynedd yn ôl i nawr, mae’n anhygoel,” meddai Jon.

“Gan gofio hefyd, bod rhaid i wisgi fod mewn casgen am dair blynedd a diwrnod. David Lloyd George ddechreuodd hynny pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys. Dywedodd bod alcohol yn lladd mwy o bobol na’r gelyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a phenderfynodd na allwch alw wisgi yn wisgi oni bai ei fod wedi bod mewn casgen am dair blynedd a diwrnod, ac felly creodd y diwydiant wisgi premiwm ar ddamwain.”

Un o sylfaenwyr Penderyn oedd y diweddar Dr Jim Swan, Albanwr oedd yn arbenigwr ar greu wisgi a fu’n rhan o waith y cwmni ers y dechrau’n deg. Roedd ei gyfraniad cynnar yn allweddol i adeiladu enw da Penderyn, meddai Jon wrth ystyried llwyddiant syfrdanol y cwmni.

“Tua chan mlynedd yn ôl roedd yna ddistyllfa Gymreig yn Frongoch ger y Bala, fe wnaethon nhw wario lot o bres arno fo – tua £2 filiwn yn arian heddiw, dw i’n meddwl. Doedd y Cymry ddim yn ei yfed oherwydd roedden nhw eisiau wisgi Gwyddeleg neu Albanaidd, a daeth yn novelty. Pan ddechreuodd Penderyn, roedd pobol yn meddwl ei fod yn novelty.

“Ond daeth dyn gwych, y diweddar Dr Jim Swan, lawr o’r Alban a dweud bod hwn yn wisgi premiwm, wisgi o safon byd eang. Fe wnaeth Cymdeithas Ddistyllfaoedd yr Alban gymryd diddordeb ynddo, a doedd e ddim yn novelty wedyn.”

Jim Swan oedd eu prif ddistyllydd cyntaf, a fo oedd yn gyfrifol am greu brag sengl unigryw Penderyn.

“Roedd hynny’n rhoi dipyn o hygrededd i ni, ac mae’n wisgi o safon byd eang,” ystyria Jon.

“Y Ffrancwyr yw’r yfwyr wisgi mwyaf fesul pen, ac fe wnaethon ni ddechrau allforio iddyn nhw yn fuan iawn ar ôl i ni lansio – rhoddodd hynny hygrededd i ni hefyd. Ansawdd y wisgi sy’n bwysig, dyw e ddim i wneud â marchnata – dydyn ni ddim yn gwario lot ar farchnata. Rydyn ni’n buddsoddi’n holl arian yn ôl mewn i’r stoc.”

Ehangu mwy dros y byd ydy gobaith nesaf y cwmni.

“Es i i gyfarfod arall ddoe, ac fe wnaeth rhywun ofyn a ydyn ni am agor distyllfa arall – fwy na thebyg ddim!”

Y genedl Geltaidd ‘gyfrinachol’

Mae Penderyn yn parhau i fod yn gwmni preifat, ac mae ganddyn nhw 16 o gyfranddalwyr. Nigel Short, fu’n gweithio yn y diwydiant dur, ydy prif gyfranddaliwr Penderyn. Trwyddo fo y daeth y Prif Weithredwr, Stephen Davies, ynghlwm â’r busnes hefyd.

“Mae nifer o bobol wedi dod o’r diwydiant dur, wir, mae e fel bod hyn yn dod o’r chwyldro diwydiannol yng Nghymru – nid o arian y dinasoedd na dim byd felly. Dw i’n teimlo bod e’n rhywbeth organig iawn i Gymru,” esbonia Jon.

“Rydyn ni’n dod o’r diwydiant dur, fe wnaethon ni dyfu yn y cymoedd ôl-ddiwydiannol.

“Rydyn ni’n Gymreig, rydyn ni’n mynd o amgylch y byd yn dweud hynny. Mae pobol yn gwybod am wisgi’r Alban ac Iwerddon. Fe wnaeth rhywun yn Efrog Newydd ofyn a ydy Cymru’n ynys oddi ar arfordir yr Alban. Gofynnodd rhywun arall: ‘Rydych chi’n gwneud wisgi o whales, fel y mamal?’

“Gan ein bod ni angen gwreiddio ein busnes, rydyn ni’n siarad am Gymru, am ein hanes, ac yn siarad am y genedl Geltaidd ‘gyfrinachol’, sydd reit neis achos dydy’r Cymry ddim yn licio bod yn rhy fuddugoliaethus.

“Ddeng mlynedd yn ôl, os fysa chi wedi gofyn i bobol be ydy brandiau enwog Cymru, fysa pobol wedi dweud [cwrw] Brains ac ati. Ond nawr dw i’n meddwl y byddai pobol yn dweud bod Penderyn yn un o’r tri prif frand yng Nghymru, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn Gymry.”