Doedd fy safle ar waelod Col de La Forclaz ddim yn ddelfrydol, ond roedd yn agos ac yn gyfleus. Ac weithiau, pan ti’n gwylio’r Tour de France, mae bod yn agos ac yn gyfleus yn bwysig iawn. Dydy hi byth yn syniad da i wylio beicwyr yn mynd lawr allt ar y cwrs am sawl rheswm. Wrth gwrs, ti’n gweld y beicwyr am lai o amser fel maen nhw’n hyrtlan heibio, ond yn fwy pwysig i rai pobl, ti hefyd efo llai o gyfle i ddal anrheg sy’n cael ei daflu gan y garafán.
gan
Phil Stead