Yng nghylchgrawn Golwg yn ddiweddar (06/07/23) cyhoeddwyd rhan o un o fy erthyglau o golwg360 ar y dudalen ‘Dan sylw’. Braf iawn oedd gweld hynny, wrth gwrs, a deallaf fod cylchgrawn copi caled yn gyfyng o ran gofod cyhoeddi, ac felly nad yw’n bosib cynnwys yr erthygl yn ei chyfanrwydd.