Mae bwyty Yr Hen Printworks wedi ennill sawl gwobr nodedig ers agor dwy flynedd yn ôl mewn hen adeilad yn y dref. Mae’r perchennog Chris Welch, gafodd ei fagu yng Ngheredigion, yn esbonio pam fod gweini ‘platiau bach’ wedi dod â gwobrwyon mawr…

Ar y llethrau sgïo y dechreuodd Chris Welch ei yrfa gan hyfforddi plant yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, cyn gweithio am gyfnodau yn Awstria, ac yna symud i fyw i Seland Newydd am rai blynyddoedd.