Mae artist blaengar yn defnyddio facebook i alw ar bobol i fodelu iddo…

Ers canolbwyntio ar bersbectif mewn celf yn ei gwrs yn y brifysgol yn Aberystwyth, mae Rob Pointon yn hoffi chwarae â phersbectif wrth baentio golygfa mewn tref.

Mae yn byw yn Swydd Gaer, ac yn paentio llawer o gwmpas dinasoedd Manceinion a Llundain. Ond ers rhai blynyddoedd mae hefyd yn canolbwyntio ar drefi ar hyd arfordir Cymru.