Mae’r canwr 32 oed wedi ennill Cân i Gymru a Thlws Sbardun am gyfansoddi caneuon sy’n agos iawn at galonnau miloedd o Gymry.

Ac mae ei fand Bwncath newydd ryddhau sengl newydd, ar drothwy gig arbennig ym Maes B ym mis Awst…

Oeddech chi’n blentyn cerddorol?

Roeddwn i a fy mrodyr i gyd yn cael gwersi piano ac yn cael ein cymell i gymryd rhan yn steddfodau’r ysgol yn Waunfawr [ger Caernarfon] a steddfod yr Urdd, fel mae rhywun.